CAW106 Cytun - Eglwysi ynghyd yng Nghymru

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Sefydliad: Cytun - Eglwysi ynghyd yng Nghymru

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Ydw

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

Mae Cytûn yn dwyn ynghyd y 18 prif enwad Cristnogol yng Nghymru, ynghyd â nifer o fudiadau Cristnogol eraill. Gellir gweld rhestr aelodaeth lawn yma: http://www.cytun.co.uk/hafan/pwy-ydym-ni/ Mae gan y 18 enwad ryw 160,000 o aelodau sy’n oedolion, ynghyd â chyswllt â miloedd yn rhagor o oedolion, plant a phobl ifainc ymhob cymuned yng Nghymru. Mae Cytûn yn aelod o Fforwm Cymunedau Ffydd Llywodraeth Cymru ac o’r corff gwirfoddol Cyngor Rhyng-ffydd Cymru.

Mae Cytûn wedi darparu cynrychiolaeth ar gyfer cymunedau ffydd trwy gydol y broses o baratoi’r cwricwlwm newydd, trwy fod yn rhan o Grŵp Rhanddeiliaid Strategol y Cwricwlwm (yn cynrychioli’r Fforwm Cymunedau Ffydd), llinyn Addysg Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (yn cynrychioli Cyngor Rhyng-ffydd Cymru), trwy nifer fawr o gyfarfodydd wyneb yn wyneb â swyddogion Llywodraeth Cymru (rhai ohonynt ar y cyd â Chyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, yr Eglwys yng Nghymru, Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig a/neu Dyneiddwyr Cymru), trwy drefnu cyfarfod rhyng-ffydd â’r Gweinidog Addysg i drafod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac yn fwyaf diweddar trwy ddod yn aelod o Grŵp Ymgysylltu Cymunedau Ffydd a Du a Lleiafrifol Ethnig.

Trwy gydol y broses, mae’r Eglwys yng Nghymru a Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig, gan eu bod yn ddarparwyr addysg o fewn y drefn a gynhelir, wedi gallu defnyddio hefyd eu sianeli cyfathrebu eu hunain â Llywodraeth Cymru. Gan fod amrywiaeth barn o fewn ein haelodaeth am briodoldeb addysg enwadol, nid yw Cytûn yn anelu at gynrychioli’n ffurfiol farn yr enwadau hynny yn eu gwaith o ddarparu addysg.

Fe wyddom fod nifer o’n haelod enwadau a mudiadau wedi cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Nid yw’r ymateb hwn yn ceisio crynhoi’r ymatebion hynny, na chwaith cymryd eu lle. Diben yr ymateb hwn yw nodi rhai materion sy’n codi o’n gwaith cynrychioliadol a esbonnir uchod.

Mae aelod eglwysi a mudiadau Cytûn ar y cyfan yn gefnogol iawn i naws a sylwedd y cwricwlwm newydd, ac yn cefnogi egwyddor sylfaenol y Bil o alluogi ysgolion lleol i greu eu cwricwlwm eu hunain, addas i’w disgyblion, o fewn fframwaith genedlaethol.

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Gan fod hwn yn newid sylfaenol yn null meddwl a gweithredu cwricwlwm ysgolion hynny, fe gytunwn fod angen deddfwriaeth i gyflawni’r amcanion hyn.

 

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

1. Y rhwystr amlycaf yng nghyfnod cyntaf y cwricwlwm newydd fydd y newid sylfaenol ym meddylfryd ac ethos y cwricwlwm, o ofyn i ysgolion ddysgu cynnwys penodol i ofyn iddynt lunio cwricwlwm fydd yn arwain at ganlyniadau penodol o ran paratoi disgyblion ar gyfer Cymru a’r byd. Mae’n amlwg yn her i athrawon a hyfforddwyd ar gyfer, ac ysgolion sy’n gyfarwydd â, un dull o feddwl a mesur llwyddiant i newid i ddulliau mor wahanol. Fe fydd angen cefnogaeth a gofal o bawb sy’n rhan o’r trawsnewid hwn, yn enwedig mewn ysgolion sy’n dysgu blynyddoedd 1-7, lle bydd y newid yn cael ei gyflwyno ar un dyddiad ym Medi 2022.

Mae’n hanfodol felly fod nid yn unig y dogfennau cyfreithiol, ond hefyd deunydd addas ar gyfer hyfforddi ac ysbrydoli athrawon yn cael ei gyhoeddi mor fuan ag sy’n bosibl.

2. Rydym ni yn gofidio’n arbennig nad yw’r fframweithiau cenedlaethol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg nac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb eto wedi eu cwblhau, er eu bod ymhlith y meysydd y mae athrawon yn gofidio fwyaf am eu dysgu yn y blynyddoedd hynny.

3. Rydym hefyd yn ymwybodol fod yr holl ddogfennaeth atodol yn cael ei chynhyrchu yn Saesneg ac wedyn ei throsi i’r Gymraeg yn hytrach na’i llunio’n ddwyieithog o’r cychwyn. Rydym yn ofidus am oblygiadau hyn o ran ysgolion cyfrwng Cymraeg – nid yw darllen cyfieithiad (waeth beth fo’i safon) mor rhwydd â darllen dogfen a luniwyd yn eich iaith eich hun. Credwn y dylai dogfennau yn y dyfodol gael eu llunio’n fwriadol ac yn bwrpasol ddwyieithog.

 

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Nac ydyn.

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

1.         Mae’r bwriad i newid Adran 405 Deddf Addysg 1996 (trwy Atodlen 2 Cymal 20) i ddileu hawl rhieni i dynnu eu plant o wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a gwersi Cyd-berthynas a Rhywioldeb wedi esgor eisoes ar ymgyrchoedd yn seiliedig ar ofnau ynghylch cynnwys y pynciau hyn a’u natur gorfodol wrth i hawl rhieni i eithrio eu plant ohonynt gael ei ddileu, a galwadau ar i rieni addysgu eu plant gartref o ganlyniad. Gellir gweld un enghraifft o’r ymgyrchu hyn yma - - https://twitter.com/education_say  Nid oes gan Cytûn na’n haelod eglwysi unrhyw ran yn yr ymgyrchu hwn, ond roeddem wedi rhybuddio swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog Addysg droeon y byddai ymgyrch o’r fath yn debygol o gael ei hysgogi pe gwnaed y newid hwn. Fe wnaethom awgrymu y byddai gwneud ymgynghori rhwng ysgolion a rhieni ynghylch eu cwricwlwm lleol yn y pwnc yn statudol yn un ffordd o adeiladu perthynas fwy cyd-gynhyrchiol a chydweithredol, ond nid yw’r awgrym hwnnw yn y Bil. Ein barn gref yw y byddai cynnwys dileu’r hawl i eithrio heb gynnwys hawl statudol ar gyfer ymgynghori lleol yn arwain at fwy o ymgyrchu o’r fath ac yn creu anghydfod cwbl ddi-angen rhwng cymunedau ac ysgolion.

Mae rhai o gynghorwyr cyfreithiol ein haelod eglwysi yn awgrymu bod tynnu’r hawliau hyn i eithrio yn mynd yn groes i’r Ddeddf Hawliau Dynol 1998, Atodlen 1, Rhan 2, Erthygl 2 (gweler https://www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/42/schedule/1 ). Nid yw Cytûn wedi ceisio cyngor cyfreithiol pellach ar y mater hwn, ond gofynnwn i’r Pwyllgor ymchwilio’n fanwl i’r mater hwn.

2.         Mae’r broses driphlyg o lunio’r cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn rhyfeddol o gymhleth ar gyfer un rhan o un Maes Dysgu a Phrofiad, ac yn peryglu atebolrwydd gan y bydd hi’n anodd dyrannu cyfrifoldeb am y cwricwlwm a ddysgir yn ymarferol i ddysgwyr. Mae cychwyn gyda chanllawiau statudol, gofyn i Gynadleddau Meysydd Llafur Cytûn lunio maes llafur sirol gan roi sylw i’r canllawiau, ac wedyn i ysgolion unigol lunio cwricwlwm yn rhoi sylw i’r maes llafur yn cyflwyno gormod o gamau i’r broses. Mae rhan fwyaf aelodau Cytûn yn awyddus i weld gofyn ar i ysgolion lleol lunio eu cwricwlwm yn unol â’r maes llafur sirol (yn hytrach nag yn rhoi sylw iddo yn unig).

3.         Byddai gweithredu’r gofyniad newydd (yn Atodlen 1 Rhan 1 cymalau 3 a 4) ar ysgolion ag iddynt sylfaen grefyddol i baratoi a chynnig dau faes llafur gwahanol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, heb ddyrannu adnoddau ychwanegol iddynt wneud hynny, yn gwahaniaethu yn erbyn yr ysgolion hyn ar sail crefydd, ac felly yn groes i gyfrifoldebau Senedd Cymru o ran cydraddoldeb, gan fod crefydd yn nodwedd gwarchodedig dan y Ddeddf Cydraddoleb.

4.         Mae’r diwygiad pellach i Ddeddf Addysg 1996 trwy Atodlen 2 Cymal 26 sy’n sefydlu pwyllgor ychwanegol ar gyfer CYSAGau a Meysydd Llafur Cytunedig yng Nghymru yn cynrychioli “such non-religious philosophical convictions ... as, in the opinion of the authority, ought to be represented” yn rhoi i’r credoau athronyddol hyn lais anghymesur wrth lunio meysydd llafur Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Mae Cytûn yn cynrychioli 160,000 o aelodau sy’n oedolion ar draws Cymru, a mae yna grwpiau crefyddol eraill sylweddol eu maint yng Nghymru hefyd. Deallwn fod gan Ddyneiddwyr Cymru 850 o aelodau ar draws Cymru, ac mae grwpiau athronyddol anghrefyddol eraill hyd yn oed yn llai. Gan fod CYSAGau a Meysydd Llafur Cytunedig yn pleidleisio fesul pwyllgor (ac nid fesul cynrychiolwyr unigol), mae hyn yn rhoi dylanwad llawer mwy i grwpiau anghrefyddol bychain wrth lunio rhan o gwricwlwm pob ysgol nag sy’n gymesur i’w maint a’u lle yng nghymdeithas Cymru.

 

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

Rydym yn deall nad yw’n ymarferol nac yn ddymunol gosod cynnwys y cwricwlwm ar wyneb y Bil, a bod angen felly darpariaethau i wneud is-ddeddfwriaeth. Ond rydym yn synnu at gynnwys yn y Bil hwn bwerau i Weinidogion wneud newidiadau sylfaenol i’r cwricwlwm y bu cymaint o gyd-gynhyrchu ac ymgynghori yn ei gylch dros sawl blwyddyn. Yn enwedig, byddem am fynegi pryder am y canlynol:

•          Adran 5 - ychwanegu, diddymu neu ddiwygio’r meysydd dysgu a phrofiad a nodwyd, yr elfennau gorfodol a’r sgiliau trawsgwricwlaidd – er gwaethaf defnyddio’r drefn cadarnhaol ddrafft, credwn y dylai newidiadau mor sylfaenol â hyn gael eu cyflwyno dim ond trwy ddiwygio’r gyfraith sylfaenol, hynny yw trwy Fil Gwelliant.

•          Adran 25(1) - pennu materion ychwanegol y caniateir eu cynnwys neu na chaniateir eu cynnwys fel gofynion yn y cwricwlwm – mae’r drefn negyddol yn anaddas at newidiadau yn y cwricwlwm, a allai fod yn fân, neu a all fod yn rhai go bwysig.

•          Adran 58(1) - rheoliadau mewn perthynas â threfniadau asesu – cynllunio, gweithredu, gwerthuso, diwygio a darparu gwybodaeth – mae digwyddiadau haf 2020 o amgylch asesu yn awgrymu nad yw’n foddhaol i newidiadau o’r math yma gael eu cyflwyno gan Weinidogion trwy’r drefn negyddol. Gall newidiadau mewn trefniadau asesu gael effaith fawr a hirdymor ar ddysgwyr, a dylai’r newidiadau hyn felly gael eu craffu yn llawn.

•          Adrannau 6, 7 ac 8 – Codau – Nid yw’n dderbyniol mai gweithdrefn negyddol sydd i’r codau hyn, gan eu bod yn cyflwyno cynnwys penodol i’r cwricwlwm all fold yn orfodol a gallai fod yn ddadleuol. Mae hyn yn arbennig o wir am y côd yn Adran 8(1) parthed Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb – gweler ein sylwadau uchod hefyd.

•          Adrannau 26 a 27 – Datgymhwyso’r gofyn am addysgu’r Saesneg. Credwn y dylai fod rôl craffu gan Awdurdodau Addysg Lleol yn y mater hwn, gan fod cynllunio darparu addysg Gymraeg yn gyfrifoldeb i awdurdodau lleol ac nid i gyrff llywodraethol unigol. Credwn felly fod angen ail-ystyried lleoli’r pwerau hyn gyda chyrff llywodraethol yn unig.

 

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

1. Oblygiadau posibl o weithredu darpariaethau'r Bil tra bod sectorau perthnasol yn ymdrin â chanlyniadau pandemig Covid-19.

Rydym yn ymwybodol o’r pwysau ar ysgolion, fel ar y gymdeithas gyfan, ar hyn o bryd, ac y gellid gwneud achos dros ohirio dechrau cyflwyno’r cwricwlwm o’r herwydd. Ar y llaw arall, mae dull addysgu cwricwlwm 1988 wedi hen ddyddio, a byddai’r cwricwlwm newydd yn anelu at arfogi disgyblion i wynebu heriau byd sy’n newid yn gyflym ac yn gynyddol ansefydlog. Fe gredir y gallai afiechydon tebyg i Covid-19 ddod yn fwy cyffredin, a mae’n sicr y bydd yr argyfwng hinsawdd yn creu heriau newydd difrifol i’r genhedlaeth fydd yn dod i oed yn dilyn cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Fe fyddai dulliau addysgu y cwricwlwm newydd yn debycach o roi’r genhedlaeth honno yng Nghymru mewn man lle y gallai wynebu’r heriau hynny yn hyderus a chyda’r sgiliau angenrheidiol.

2. Rydym am nodi ein diolch i swyddogion Adran Addysg Llywodraeth Cymru am eu parodrwydd i drafod materion gyda ni ar hyd y daith wrth lunio’r cwricwlwm a’r Bil hwn. Serch hynny, rhaid nodi ein siom i’r cydweithio braf gael ei suro fwy nag unwaith gan newidiadau a wnaed ar lefel gwleidyddol wedi i ni dderbyn sicrwydd na fyddent yn cael eu gwneud. Yn benodol, yn ystod y broses fe wyrdrowyd sicrwydd a roddwyd i ni ynghylch:

•          na fyddai newid i statws cyfreithiol na chyfansoddiad CYSAGau a Meysydd Llafur Cytunedig;

•          na fyddai unrhyw newid i’r hawl i rieni eithrio eu plant o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg;

•          y byddai ysgolion lleol yn cadw’r hawl i lunio Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar sail trafodaeth â rhieni lleol, yn hytrach na gorfod dilyn maes llafur cenedlaethol.

Rydym hefyd yn siomedig iawn na fu modd i’r Grwp Rhanddeiliaid Strategol gyfarfod o gwbl yn ystod 2020, a hynny ar amser tyngedfennol yn natblygiad y Bil. Credwn y byddai wedi bod yn bosibl cyfarfod yn rhithiol, a mae’r methiant i wneud hyn wedi ein hamddifadu rhag ein llwybr ffurfiol i godi’r materion uchod gyda Llywodraeth Cymru.

Deallwn fod hyn yn mynd y tu hwnt i gynnwys y Bil, ond credwn y dylai’r Pwyllgor wybod na fu’r ymgysylltu â ni a rhanddeiliaid eraill yn ystod 2020 yr hyn yr oeddem wedi ei ragweld na gobeithio amdano.

3. Byddem yn hapus i gynnig unrhyw gymorth ychwanegol yr hoffai’r Pwyllgor ei dderbyn yn ei waith ynghylch y Bil hwn.